Telerau ac amodau’r wefan
Cynllun Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc Cymru – Telerau ac Amodau ‘fyngherdynteithio’.
1. Teitl y cynllun
Cynllun Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘y cynllun’.
2. Brand y cynllun
Brand y cynllun ar gyfer unrhyw waith cyfathrebu cyhoeddus yw ‘fyngherdynteithio’.
3. Disgrifiad
Mae’r cynllun yn sicrhau bod pobl gymwys yn cael disgownt o 1/3 oddi ar bris y tocyn cyfatebol i oedolyn.
4. Cymhwysedd
Dim ond pobl gymwys a gaiff wneud cais, ac fe’u diffinnir fel a ganlyn:
- Pobl 16 i 21 oed (gan gynnwys yr oedrannau hynny), a
- Phobl y mae eu prif gartref yng Nghymru.
5. Ffiniau daearyddol
Mae’r cerdyn yn berthnasol i wasanaethau bws lleol sy’n gweithredu’n gyfan gwbl yng Nghymru, neu wasanaethau bws lle mae’r daith yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru gweler y Cwestiynau Cyffredin am ragor o fanylion).
6. Amseroeddgweithredu
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar yr amseroedd y gellir defnyddio’r cerdyn.
7. Mathau o deithiau
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y mathau o deithiau y gellir defnyddio’r cerdyn ar eu cyfer.
8. Y disgownt a’r cyfyngiadau ar gyfer tocynnau
Bydd disgownt o 1/3 oddi ar bris y tocyn cyfatebol i oedolyn yn cael ei roi yng nghyswllt pob cynnyrch a phob tocyn y gellir ei brynu ar fysiau. Am resymau masnachol, gall gweithredwyr gynnig y disgownt yng nghyswllt cynnyrch nad oes modd ei brynu ar fysiau ond sydd ar gael mewn mannau megis swyddfeydd neu siopau teithio.
Mae'n.bosibl na fydd tocynnau tymhorol neu docynnau hyrwyddo, y mae eu pris eisoes yn llai na phris tocyn cyffredin, yn rhan o’r cynllun.
9. Trosglwyddo’r cerdyn
Dim ond yr unigolyn y mae ei enw’n ymddangos ar y cerdyn a gaiff ddefnyddio’r cerdyn, ac ni ellir trosglwyddo’r cerdyn.
Bydd y cerdyn disgownt yn cael ei gymryd yn ôl os caiff ei gamddefnyddio / os caiff ei ddefnyddio gan unrhyw un ar wahân i ddeiliad y cerdyn, a gallai hynny arwain at achos troseddol.
Caiff cardiau teithio eu rhoi’n amodol ar delerau ac amodau’r cynllun. Bydd y cerdyn yn parhau’n eiddo i Lywodraeth Cymru.
10. Rhoi’r disgownt ar y bws
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y cerdyn ddangos y cerdyn i’r gyrrwr er mwyn cael y disgownt perthnasol. Bydd yn rhaid i bobl nad ydynt yn gallu dangos cerdyn dilys dalu’r pris llawn i oedolyn.
Mae cynrychiolwyr cwmnïau bysiau’n cadw’r hawl i archwilio cardiau a / neu ofyn am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau oedran deiliad y cerdyn.
Ni fydd y cerdyn teithio’n ddilys os caiff ei newid neu’i ddifrodi mewn unrhyw fodd.
Bydd yn ofynnol i ddeiliaid y cerdyn roi gwybod yn syth i fyngherdynteithio os caiff y cerdyn ei golli neu’i ddwyn neu os bydd yn ddiffygiol, er mwyn gallu ei ganslo a rhoi cerdyn newydd yn ei le.
11. Rheolau a rheoliadau
Bydd rheolau a rheoliadau pob cwmni bysiau’n berthnasol pan fydd unigolyn yn teithio gyda’r cerdyn.
12. Cyfnod y cynllun
Estynwyd y cynllun hwn i'r grŵp oedran 16-21 ym mis Rhagfyr 2018.
Bydd gan ddeiliaid y cerdyn hawl i fanteisio ar y disgownt nes y byddant yn cael eu pen- blwydd yn 22 oed.
13. Cyfnod ar gyfer gwneud cais
Gall pobl wneud cais am y cerdyn hyd at 10 diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 16 oed, a chyn eu pen-blwydd yn 22 oed.
14. Rhoi cardiau
Ni fydd yn rhaid i’r defnyddiwr dalu am gerdyn yn ystod y cyfnod treialu.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu llun lliw diweddar sydd o faint llun pasport. Caiff yr holl wybodaeth ei darparu’n ddidwyll gan yr ymgeisydd. Ni fydd y sawl y canfyddir eu bod wedi gwneud cais gan ddefnyddio gwybodaeth anghywir yn cael cerdyn, neu cymerir camau i ganslo cerdyn deiliaid presennol sy’n gweithredu’n dwyllodrus. Gellir erlyn unrhyw ddeiliad sy’n gweithredu’n groes i’r amodau hyn.
Bydd cardiau newydd / cardiau a roddir yn lle rhai sydd wedi’u colli neu’u dwyn yn cael eu rhoi cyn pen 10 diwrnod ar ôl cael ffurflen gais sydd wedi’i llenwi / gwybodaeth am gerdyn sydd wedi’i golli neu’i ddwyn. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn atebol am ddisgownt tra bydd cais am gerdyn newydd neu gerdyn a roddir yn lle un sydd wedi’i golli neu’i ddwyn yn cael ei brosesu.
Bydd y cardiau yn parhau’n eiddo i Lywodraeth Cymru a dylid eu dinistrio pan fyddant yn dod i ben neu pan fydd y cynllun yn cael ei derfynu.
15. Newid cyfeiriad
Mae’n ofynnol i ddeiliaid y cerdyn roi gwybod i fyngherdynteithio am unrhyw newidiadau i’w prif gyfeiriad. Os yw’r cyfeiriad newydd y tu allan i Gymru, bydd y cerdyn yn cael ei ganslo a bydd yn rhaid ei roi’n ôl.
16. Eithriadau
Nid yw’r cerdyn yn ddilys ar wasanaethau trên na gwasanaethau bws pellter hir, ar wahân i wasanaethau TrawsCymru. Nid yw'n gweithio ar fysiau National Express a Megabus.
Nid yw’r cerdyn yn brawf o oedran neb.
Nid yw’r cerdyn yn rhoi’r hawl i unigolyn gael ei gludo ar unrhyw wasanaeth bws unrhyw bryd, ac nid yw’n gwarantu hynny, ac nid yw’n arwain at ddisgwyliad y bydd gwasanaethau cyfredol yn parhau neu y bydd gwasanaethau newydd yn cael eu darparu.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod a ddioddefir wrth deithio gyda’r cerdyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau a’r amodau o bryd i’w gilydd a bydd yn cyhoeddi’r newidiadau ar llyw.cymru/fyngherdynteithio.
17. Hysbysiad Prosesu Teg – Y Fenter Twyll Genedlaethol
Mae’r gyfraith yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn diogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu’r wybodaeth a roddir iddi â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod twyll.
Mae’r Comisiwn Archwilio yn penodi’r Archwilydd Allanol i archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn, ac mae hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.
Mae paru data’n golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill y corff hwnnw neu gorff arall. Gwybodaeth bersonol yw cofnodion o’r fath fel rheol. Mae cymharu data cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl adnabod hawliadau a thaliadau a allai fod yn rhai twyllodrus. Os gwelir bod data’n paru, gallai fod yn arwydd o anghysondeb y mae angen ymchwilio ymhellach iddo. Ni ellir tybio o gwbl bod twyll neu gamgymeriad wedi digwydd neu bod esboniad arall yn berthnasol, nes y bydd ymchwiliad manwl pellach wedi’i gynnal.
Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Archwilio yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod twyll. Mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i’r Comisiwn Archwilio at ddibenion paru, ac mae manylion y rhain wedi’u cynnwys yn llawlyfrau’r Comisiwn Archwilio sydd i’w gweld ar www.audit-commission.gov.uk/nfi
Mae’r Comisiwn Archwilio yn defnyddio data mewn ymarfer paru data gydag awdurdod statudol dan ei bwerau yn Rhan 2A Deddf y Comisiwn Archwilio 1998. Nid yw’n ofynnoliddo gael caniatâd yr unigolion perthnasol dan Ddeddf Diogelu Data 1998 er mwyn cynnal yr ymarfer.
Mae’r gwaith paru data a wneir gan y Comisiwn Archwilio yn rhwym wrth God Ymarfer. Gellir gweld y cod ymarfer ar www.audit-commission.gov.uk/nfi/codeofdmp
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol y ComisiwnArchwilioa’rrhesymau pam y mae’n paru gwybodaeth benodol, gweler yr Hysbysiad Lefel 3 ar wefan y Comisiwn Archwilio: http://audit-commission.stage.ac/nfi/fptext.asp neu cysylltwch â Phennaeth y Fenter Twyll Genedlaethol drwy ffonio 0844 798 2222 neu ebostio nfiqueries@audit-commission.gov.uk