Polisi preifatrwydd y wefan

Yn fyngherdynteithio rydym wedi ymrwymo i gynnal y ffydd a’r hyder sydd gan y sawl sy’n ymweld â’n gwefan ynom. Yn benodol, rydym am i chi wybod nad yw fyngherdynteithio yn gwerthu rhestrau ebost, yn eu gosod ar rent nac yn eu cyfnewid â chwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata. D’yn ni ddim yn gwneud pethau felly o gwbl. Ond rhag ofn nad ydych yn ein credu, mae’r polisi preifatrwydd hwn yn darparu llawer o wybodaeth fanwl ynghylch pryd a pham y byddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol, sut y byddwn yn ei defnyddio, yr amodau cyfyngedig pan gawn ei datgelu i bobl eraill, a sut y byddwn yn ei chadw’n ddiogel.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut y mae fyngherdynteithio yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Mae fyngherdynteithio wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol a fydd yn golygu bod modd eich adnabod, pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio.

Gall fyngherdynteithio newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon o dro i dro i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau. Bydd y polisi hwn yn dod i rym ar 23 Mai 2018.

Y sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data yw buddiant dilys a’r ffaith bod angen prosesu’r data er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau i’r cynllun, a allai gael eu gwneud o dro i dro.

Sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio

Dim ond at ddibenion sy’n ymwneud â gwaith gweinyddu, gwasanaeth i gwsmeriaid, ymchwil a gwaith atal twyll sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a rheoli fyngherdynteithio y bydd y manylion a roddir gennych yn cael eu defnyddio.

Diogelu data

Pan fydd rhywun yn ymweld â www.fyngherdynteithio.llyw.cymru byddwn yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Byddwn yn gwneud hynny er mwyn darganfod pethau megis nifer y bobl sy’n ymweld â gwahanol rannau’r wefan. Dim ond mewn modd sy’n golygu na fydd yn bosibl adnabod neb y bydd y wybodaeth honno’n cael ei phrosesu. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw’r bobl sy’n ymweld â’r wefan, ac nid ydym yn galluogi Google i wneud hynny chwaith.

Rydym yn defnyddio ddosbarthu ein llythyr newyddion trwy ebost. Rydym yn defnyddio technolegau safonol i gasglu ystadegau ynghylch nifer y bobl sy’n agor negeseuon ebost a nifer y cliciadau, er mwyn ein helpu i fonitro a gwella ein llythyr newyddion. Gallwch dynnu eich enw oddi ar y rhestr bostio ar gyfer negeseuon ebost cyffredinol unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy glicio ar y ddolen gyswllt ‘ymadael â’r rhestr bostio’ sydd ar waelod unrhyw un o’n negeseuon ebost yn customerservice@mytravelpass.cymru.

Gan fod y cynllun yn cael ei weinyddu gan FyNgherdynTeithio ar ran Llywodraeth Cymru, byddan nhw'n cadw eich data hyd nes i'ch cerdyn teithio ddod i ben a bod gennych ddim hawl i deithio'n rhatach. Ond ni fydd gan Lywodraeth Cymru fynediad uniongyrchol at eich cofnodion.

Rydym yn cymryd gofal mawr wrth reoli eich gwybodaeth bersonol. Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni, felly rydym am i chi ddeall pam yr ydym yn gofyn am bob darn o wybodaeth pan fyddwch yn cofrestru gyda ni.

Enw a chyfeiriad ebost

Rydym yn gofyn am eich enw er mwyn i ni allu eich cyfarch wrth eich enw os byddwch yn dewis gwneud cais am y cerdyn teithio rhatach. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau eich bod yn berson go iawn (h.y. nad ydych yn robot) ac at ddibenion diogelwch.

Cyfeiriad

Mae angen eich cyfeiriad arnom er mwyn i ni allu anfon eich cerdyn atoch.

Llun

Mae angen llun arnom i’w gynnwys ar y cerdyn ei hun at ddibenion eich adnabod, er mwyn gwneud yn siŵr mai chi yw’r person sy’n gymwys i gael y tocyn teithio rhatach.

Oedran a rhyw

Mae angen y wybodaeth hon i gwblhau’r gwaith o brosesu eich cerdyn er mwyn teilwra’r wybodaeth gywir ar gyfer defnyddio’r cerdyn ac er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys.

Pryd y byddwn yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cerdyn ar y wefan hon, pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau gennym trwy ebost.

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Dim ond y wybodaeth yr ydych yn dewis ei darparu y byddwn yn ei chasglu. Mae’r holl fanylion uchod yn ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer y cerdyn ac optio i mewn i gael diweddariadau trwy ebost.

Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Er mwyn anfon negeseuon ebost atoch, ond dim ond os ydych wedi optio i mewn i gael diweddariadau. Er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi o dro i dro am unrhyw newidiadau i’r cynllun.

Dim ond at ddibenion gweinyddu, darparu gwasanaethau i gwsmeriaid, cyflawni gwaith ymchwil ac atal twyll, sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, rheoli a defnyddio fyngherdynteithio, y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r manylion y byddwch yn eu darparu.

A all defnyddwyr gywiro, golygu neu ddileu eu gwybodaeth?

Gallwch ddefnyddio eich negeseuon ebost i dynnu eich enw oddi ar restr bostio ein llythyr newyddion. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, ni fyddwn yn parhau i anfon negeseuon i’r cyfeiriad ebost hwnnw.

Gallwch ofyn am i’ch gwybodaeth gael ei chywiro a’i golygu, ond os bydd y wybodaeth yn cael ei dileu dylech nodi na fydd y cerdyn teithio a roddwyd i chi’n ddilys wedyn.

Mae gennych hawl i weld, diwygio neu ddileu’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch.

Gallwch hefyd nodi eich bod wedi ‘anghofio eich cyfrinair’ er mwyn newid eich cyfrinair presennol. Os hoffech ddileu eich manylion, ebostiwch customerservice@mytravelpass.cymru ac fe wnawn ni dynnu eich manylion oddi ar y system.

Dolenni cyswllt â gwefannau eraill

Mae’n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni cyswllt a fydd yn eich galluogi i ymweld yn hawdd â gwefannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, pan fyddwch wedi defnyddio’r dolenni cyswllt hynny i adael ein gwefan, dylech nodi na fydd gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth nac am breifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â gwefannau o’r fath, ac ni chaiff gwefannau o’r fath eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Cwcis ar y wefan

Yn fyngherdynteithio rydym yn defnyddio cwcis i wella perfformiad a chyflymder ein gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid.

Beth yw cwci?

Ffeil destun fach yw ‘cwci’, a gaiff ei gosod ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Caiff cwcis eu defnyddio’n eang er mwyn galluogi gwefannau i weithio’n fwy effeithlon ac er mwyn darparu gwybodaeth i berchnogion gwefannau.

Optio allan o ddefnyddio cwcis

Os ydych am reoli pa gwcis yr ydych yn eu derbyn, gallwch ffurfweddu eich porwr i dderbyn pob cwci neu i’ch rhybuddio bob tro y caiff cwci ei gynnig gan weinydd gwefan. Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig. Gallwch osod eich porwr fel na fyddwch yn derbyn cwcis, a gallwch hefyd ddileu cwcis presennol o’ch porwr. Efallai y gwelwch na fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio’n iawn os ydych wedi gwrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut y mae gweld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

Cofiwch y byddwch yn derbyn cwcis a ddarperir gan y wefan hon, os na fyddwch wedi ffurfweddu eich porwr.

Am ba hyd y caiff fy nata ei storio?

Bydd y manylion y byddwch yn eu darparu wrth gofrestru ar gyfer cerdyn yn cael eu storio nes y byddwch yn penderfynu tynnu eich enw oddi ar ein rhestr bostio ar gyfer negeseuon ebost, nes y byddwch yn penderfynu dileu eich manylion, neu tan chwe mis ar ôl eich pen-blwydd yn 22 oed neu chwe mis ar ôl i’r cynllun ddod i ben, pa beth bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

Pan fyddwch yn anfon adborth atom drwy’r ffurflen ar gyfer cysylltu â ni neu drwy customerservice@mytravelpass.cymru, caiff eich enw a’ch cyfeiriad ebost eu dileu o’n system cyn gynted ag y bydd y mater y gwnaethoch ddarparu adborth yn ei gylch wedi’i ddatrys.

Sut y gallaf gwyno?

Os hoffech drafod ein polisi preifatrwydd, ebostiwch ni yn customerservice@mytravelpass.cymru. Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn negeseuon ebost na ofynnwyd amdanynt oddi wrth ein sefydliad, anfonwch eich cwyn atom ynghyd â chopi o’r ebost na ofynnwyd amdano ac fe wnawn ni ein gorau glas i sicrhau na fydd hynny’n digwydd eto.

Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth yn awtomatig am ddefnyddwyr y wefan hon. Byddwn yn casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr sy’n dewis cyfathrebu’n wirfoddol â ni drwy ebost, drwy ein tudalennau ar gyfer cysylltu â ni neu drwy ein ffurflen ymholiadau. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gyfanredol gyffredinol am y defnydd a wneir o’r wefan, at ddibenion ystadegol.

Yn dilyn cael cais ysgrifenedig, byddwn yn darparu’r holl wybodaeth a gedwir am ddefnyddiwr penodol; fodd bynnag, bydd angen i’r sawl dan sylw fodloni prawf adnabod cyn y byddwn yn darparu’r wybodaeth honno.

Os byddwch yn darparu gwybodaeth drwy ein ffurflenni ar gyfer cysylltu â ni, yr unig ymateb a gewch fydd ymateb i’ch rhesymau dros gysylltu â ni; ni fyddwn yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall. Fodd bynnag, os byddwn o’r farn bod gennym gynnig neu wasanaeth newydd sy’n berthnasol i’ch ymholiad penodol, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi eto yn y dyfodol. Os nad ydych am i ni gysylltu â chi yn y modd hwn ac os hoffech dynnu eich manylion o’n cronfa ddata, rhowch wybod i ni drwy anfon ebost byr atom. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd parti oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Rydym yn cadw’r hawl i newid geiriad y polisi hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn teimlo ei bod yn briodol newid y polisi, byddwn yn hysbysu defnyddwyr y wefan drwy gyhoeddi’r geiriad newydd ar y dudalen hon ar y we.

Eich hawliau dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Mae gennych hawl dan y GDPR i ofyn i Lywodraeth Cymru adael i chi weld y data personol a gedwir amdanoch a chael copi ohono; mae gennych hawl, mewn rhai amgylchiadau, i ofyn i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i brosesu data personol amdanoch; ac mae gennych hawl i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth asesu’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu data personol amdanoch. Rhif ffôn llinell gymorth y Comisiynydd Gwybodaeth yw 0303 123 1113.