Mwy am dy gerdyn

Falle bod gen ti gwestiynau am fyngherdynteithio. Dyma rai atebion.

Os nad wyt ti’n cael ateb i dy gwestiwn, ffonia 0300 200 22 33  neu defnyddia’r ffurflen gysylltu.

Beth yw fyngherdynteithio?

Cynllun teithiau rhatach yw fyngherdynteithio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi tua 1/3 i ffwrdd ar docynnau bws i bobl ifanc 16-21 oed yng Nghymru.

Beth mae ‘tua 1/3 i ffwrdd’ yn ei olygu?

Bydd dy gerdyn yn rhoi tua 1/3 oddi ar bris llawn y tocyn bws oedolyn y byddet fel arall wedi gorfod ei brynu. Efallai y bydd rhai cwmnïau bws yn cynnig disgownt ychwanegol neu opsiynau eraill ar gyfer prynu tocynnau – dylet eu holi nhw am hynny.

Sut mae defnyddio fyngherdynteithio?

Dangos y cerdyn i’r gyrrwr, a bydd ef/hi yn rhoi’r disgownt priodol i ti oddi ar bris dy docyn.

Pryd ga i ddefnyddio fyngherdynteithio?

Cei ddefnyddio fyngherdynteithio ar unrhyw adeg o’r dydd ac unrhyw ddiwrnod o’r wythnos pan fydd bysiau’n rhedeg, gan gynnwys y penwythnos a gwyliau banc.

Cei ddefnyddio fyngherdynteithio ar gyfer unrhyw fath o daith bws – i’r ysgol, i’r gwaith, i weld dy ffrindiau neu daith hamdden.

Pwy sy’n cael defnyddio fyngherdynteithio?

Mae fyngherdynteithio ar gael i unrhyw un 16-21 oed sy’n byw yng Nghymru. Rhaid cael cyfeiriad parhaol yng Nghymru neu ddilyn cwrs addysg llawn amser yma.

Dim ond y person sydd wedi ei gofrestru a rhoi ei ffotograff ar y cerdyn sy’n cael defnyddio fyngherdynteithio.

Os bydd unrhyw un arall yn ceisio defnyddio’r cerdyn, bydd hynny’n cael ei ystyried yn dwyll a bydd y cerdyn yn cael ei ganslo. Gallet gael dy erlyn am hyn.

Ar ba fysiau ga i ddefnyddio fyngherdynteithio?

Os wyt ti yn 16 – 18 oed, bydd pob Cwmni bysiau yn cynnig FyNgherdynTeithio i ti. Os wyt ti’n 19 – 21 oed, mae rhestr yma  o bob cwmni sy’n cynnig  y cynllun.

  • Arriva
  • Arriva Mid
  • Berwyn
  • Bysiau Cwm Taf
  • Caelloi Motors
  • Celtic Travel
  • Cardiff Bus
  • Clynnog & Trefor
  • Eifions
  • Edwards Coaches
  • First Cymru
  • Harris Coaches
  • Humphreys Coaches
  • Johns Travel (Gwynedd)
  • Lewis y llan
  • Llew Jones
  • Lloyds Coaches
  • Minsterly Motors
  • Morris Travel Carmarthenshire
  • M&H Coaches
  • NAT
  • Newport bus
  • Phil Anslow
  • Richard Brothers
  • Stagecoach
  • Stagecoach West
  • Taf Valley
  • Tanant Valley
  • VR Travel Ltd

Byddwn yn diweddaru’r rhestr wrth i ragor o gwmnïau ymuno.

Sut alla i wneud cais am fyngherdynteithio?

Ar-lein – Cei wneud cais am fyngherdynteithio ar-lein yma.

Trwy'r post – argraffu ffurflen o’r wefan, ei llenwi, gludo llun pasbort diweddar arni a’i hanfon i: Blwch SP 52, Penrhyndeudraeth, LL49 0AU

Ffôn – ffonia ni ar 0300 200 22 33 ac fe wnawn ni anfon ffurflen gais atat yn y post (cei amlen rhadbost i ddychwelyd y ffurflen am ddim)

Pryd ga i wneud cais am fyngherdynteithio a than pryd bydd e’n gweithio?

Cei wneud cais am fyngherdynteithio 10 diwrnod gwaith cyn dy benblwydd yn 16 oed, neu unrhyw bryd rhwng dy benblwyddi yn 16 ac yn 22 oed.

Daw fyngherdynteithio i ben ar dy benblwydd yn 22, a fydd e ddim yn gweithio wedyn.

Os gwnest ti gais am y cerdyn pan oedd ar gael i bobl 16-18 oed yn unig, (ac os wyt ti’n dal o dan 19 oed), byddwn yn cysylltu â thi tua mis cyn dy benblwydd yn 19 oed, i’th atgoffa i anfon ebost atom er mwyn inni allu anfon cerdyn newydd iti ei ddefnyddio tan dy benblwydd yn 22 oed.

Pa brawf sydd ei angen i wneud cais am gerdyn?

I wneud cais, bydd angen i ti ddarparu llun pasport diweddar o dy hun a rhoi cod post dy brif gartref (e.e. dy gyfeiriad yn ystod y tymor os wyt ti’n astudio llawn amser yng Nghymru). Hefyd bydd angen i ti roi dy ddyddiad geni. Bydd dy fanylion cofrestru’n cael eu gwirio ar ran Llywodraeth Cymru i gadarnhau eu bod yn gywir. Gweler y datganiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth. Os bydd gwybodaeth yn ffug, chei di ddim cerdyn a gallet gael dy erlyn.

Pam mae angen imi ddarparu llun?

Mae’n bwysig cael llun ohonot ar y cerdyn teithio er mwyn i’r gyrrwr allu gweld yn syth mai ti sydd â hawl i gael disgownt.

Os nad yw’r gyrrwr yn siŵr mai ti yw deiliad y cerdyn, efallai bydd yn gofyn i ti am ddogfen adnabod arall.

Beth os nad ydw i’n edrych yn debyg i’r llun sydd ar fy ngherdyn?

Os wyt ti wedi newid y ffordd rwyt ti’n edrych, rho wybod i ni ac ebostia lun newydd atom. Cei gerdyn arall wedyn gyda’r llun newydd arno.

Rwy’n cael trafferth llenwi fy ffurflen gais. Ble alla i gael help?

Os wyt ti’n cael trafferth llenwi dy ffurflen gais, ffonia ni ar 0300 200 22 33 a wnawn ni dy helpu.

Beth os nad yw fformat neu ddyluniad y ffurflen gais yn addas i mi?

Os oes arnat angen ffurflen gais neu wybodaeth mewn fformat arall, e.e. print bras, braille neu awdio, ffonia 0300 200 22 33 neu ebostia ymholiadau@fyngherdynteithio.cymru.

Oes rhaid imi dalu am fy ngherdyn?

Nac oes, mae’r cerdyn am ddim.

Faint o amser cyn bydd y cerdyn yn cyrraedd trwy’r post?

Fel arfer, bydd yn cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i brosesu dy gais ac anfon dy gerdyn atat. Os wyt ti wedi aros mwy na hynny, ffonia ni ar 0300 200 22 33.

Rwy’n astudio yng Nghymru. Oes gen i hawl i gael fyngherdynteithio?

Os wyt ti’n astudio llawn amser yng Nghymru ac yn y categori oedran cywir, bydd gen ti hawl i gael fyngherdynteithio.

Rwy’n ymweld â Chymru. Oes gen i hawl i gael fyngherdynteithio?

Dim ond pobl sy’n byw yng Nghymru yn barhaol neu yn ystod y tymor addysgol (h.y. os wyt ti’n fyfyriwr mewn addysg llawn amser) sydd â hawl i gael fyngherdynteithio.

Ga i deithio am ddim ar y trên gyda fyngherdynteithio?

Na chei. Mae’r cynllun yn rhoi tua 1/3 oddi ar bris tocynnau bws yn unig. Ni ellir defnyddio’r cerdyn ar drenau. Cei ddefnyddio’r cerdyn ar fysiau yng Nghymru, gan gynnwys TrawsCymru. Ond nid ar fysiau Megabus a National Express.

Oes unrhyw ddisgownt arall ar gael i mi?

Byddai angen i ti holi dy gwmni bysiau neu drenau i weld a oes unrhyw ddisgownt arall ar gael i ti.

Mae fyngherdynteithio yn ymchwilio i gyfleoedd i gynnig disgownt gyda nifer o bartneriaid eraill. Felly, cofia edrych ar ein gwefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Faint fydd rhaid imi dalu am fy nhocyn bws?

Bydd rhaid iti  holi’r cwmni bysiau unigol i weld beth fydd union bris dy docyn.

Alla i brynu fy nhocynnau bws ar-lein cyn teithio?

Mae fyngherdynteithio yn rhoi tua 1/3 oddi ar bris tocynnau bws a gaiff eu prynu ar y bws. Efallai y bydd rhai cwmnïau bysiau’n cynnig disgownt ychwanegol neu opsiynau eraill ar gyfer prynu tocynnau – dylet holi’r cwmni ei hun am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ga i ddefnyddio fyngherdynteithio ar y National Express a’r Megabus?

Na chei. Dim ond ar fysiau lleol a bysiau TrawsCymru y bydd fyngherdynteithio’n gweithio. Fydd National Express a Megabus ddim yn rhoi gostyngiad iti am fod gen ti fyngherdynteithio.

Ga i ddefnyddio fyngherdynteithio ar wasanaethau bws tu allan i Gymru?

Na chei. Dim ond gwasanaethau bws yng Nghymru sy’n derbyn fyngherdynteithio.

Ga i ddefnyddio fyngherdynteithio ar fysiau sy’n croesi’r ffin i Loegr?

Cei. Cyn belled bod dy daith bws yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru, bydd dy gerdyn yn gweithio hyd at, ac o, yr arhosfan bws cyntaf ar ôl croesi’r ffin.

Ga i ddefnyddio fyngherdynteithio fel prawf o fy oedran?

Na chei. Ni ellir defnyddio fyngherdynteithio fel prawf oedran neu ddogfen adnabod.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n colli fyngherdynteithio neu os yw’n cael ei ddwyn?

Os caiff dy gerdyn ei ddwyn neu os wyt ti’n ei golli, ffonia ni ar 0300 200 22 33 ac fe wnawn ni ei ganslo a rhoi cerdyn newydd i ti.

Rwyf wedi gadael fyngherdynteithio ar y bws. Beth ddylwn i ei wneud?

Ffonia ni ar 0300 200 22 33 ac fe wnawn ni ganslo dy gerdyn a rhoi cerdyn newydd i ti. Mae’n bwysig canslo’r cerdyn i atal eraill rhag ei ddefnyddio drwy dwyll.

Rwyf wedi dod o hyd i fyngherdynteithio rhywun arall. Beth ddylwn i ei wneud?

Os wyt ti’n dod o hyd i gerdyn rhywun arall, ffonia ni ar 0300 200 22 33. Byddwn yn canslo’r cerdyn wedyn.

Rwyf wedi colli fyngherdynteithio. Ydw i’n dal yn gallu cael 1/3 oddi ar bris tocynnau bws?

Nac wyt. Heb fyngherdynteithio dilys, chei di ddim disgownt ar gost dy taith. Ffonia ni ar 0300 200 22 33 a wnawn ni roi cerdyn newydd i ti.

Beth sy’n digwydd os yw fyngherdynteithio yn stopio gweithio?

Ffonia ni ar 0300 200 22 33 a wnawn ni ganslo dy gerdyn a rhoi cerdyn newydd i ti.

Beth os ydw i’n newid fy nghyfeiriad?

Os bydd dy gyfeiriad yn newid, rhaid i ti roi gwybod i fyngherdynteithio drwy ffonio 0300 200 22 33 a rhoi dy gyfeiriad newydd i ni.

Hefyd, dylet roi gwybod i fyngherdynteithio os wyt ti’n symud i fyw tu allan i Gymru, er mwyn i ni allu canslo dy gerdyn.

Ble ga i amserlenni a gwybodaeth i gynllunio taith?

Cei amserlenni a gwybodaeth i gynllunio taith dros y ffôn ar 0300 200 22 33 neu ar www.cymraeg.traveline.cymru/

Calls to mytravelpass are charged at local rate and included in any free call bundles you may have on your mobile phone or landline contract.

Faint mae’n gostio i ffonio fyngherdynteithio ar 0300 200 2 33?

Mae galwadau ffôn i fyngherdynteithio yn costio’r un faint â galwadau lleol, ac maent wedi’u cynnwys mewn unrhyw fwndeli galwadau am ddim sydd yn eich contract ffôn symudol neu ffôn y tŷ.

Sut alla i ganmol gyrrwr da?

Os wyt ti eisiau canmol gyrrwr bws am fod yn garedig neu am dy helpu di neu deithiwr arall, galli gysylltu â’r cwmni bws perthnasol. Cofia roi cymaint o fanylion ag sy’n bosibl.

Beth os ydw i’n teimlo bod gyrrwr bws wedi bod yn anghwrtais neu’n amharod i helpu?

Os wyt ti’n teimlo bod gyrrwr wedi bod yn anghwrtais neu’n amharod i dy helpu di neu deithiwr arall, galli roi gwybod i’r cwmni bysiau yn y lle cyntaf, gan roi cymaint o fanylion ag sy’n bosibl.

Fel arall, gallet gyfeirio dy gŵyn at Defnyddwyr Bysiau Cymru, sef sefydliad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i gynrychioli buddiannau teithwyr. Rhif ffôn Defnyddwyr Bysiau Cymru yw 029 2043 4300 a’r cyfeiriad ebost yw wales@bususers.org. Bydd Defnyddwyr Bysiau Cymru yn trafod dy gŵyn â’r cwmni bysiau.

Ydy fyngherdynteithio yn gallu cael ei ganslo?

Gall dy gerdyn gael ei ganslo os wyt ti’n rhoi gwybodaeth anghywir ar dy ffurflen gais neu’n camddefnyddio dy gerdyn. Os oes tystiolaeth dy fod wedi ymddwyn yn anghwrtais neu’n ymosodol tuag at deithiwr arall neu yrrwr, mae’n debygol y caiff dy gerdyn ei ganslo a gallet gael dy wahardd rhag teithio ar fysiau’r cwmni neu hyd yn oed gael dy erlyn.